Telerau Defnyddio Gwefan – Hysbysiad Cyfreithiol Pwysig

Mae’r Telerau a’r Amodau Defnyddio hyn ynghyd ag unrhyw ddogfennau eraill y cyfeirir atynt ynddynt (y “Telerau Defnyddio”) yn berthnasol i’r wefan a geir ar http://360digital.swgfl.co.uk a’r holl wefannau cysylltiol sy’n eiddo i’r South West Grid for Learning Trust Ltd (y cyfeirir ato fel “SWGfL” a “Ni”) a’i is-gwmnïau (gyda’i gilydd, y “Wefan”).

Eiddo SWGfL yw’r Wefan. Drwy ddefnyddio’r Wefan hon, rydych yn cytuno i'r Telerau Defnyddio hyn. Os nad ydych chi'n cytuno â nhw, peidiwch â defnyddio'r wefan.

Mae’r Telerau Defnyddio hyn yn dweud wrthych ar ba delerau y cewch ddefnyddio’r Wefan, boed hynny fel gwestai neu fel defnyddiwr cofrestredig. Darllenwch y Telerau Defnyddio hyn yn ofalus cyn ichi ddechrau defnyddio'r Wefan.

Mae SWGfL yn cadw’r hawl, ar ei ddisgresiwn ef yn llwyr, i newid, addasu, ychwanegu neu dynnu rhannau o’r Telerau Defnyddio hyn, ar unrhyw adeg. Eich cyfrifoldeb chi yw edrych ar y Telerau Defnyddio hyn o bryd i’w gilydd am newidiadau. Bydd parhau i ddefnyddio’r Wefan ar ôl i newidiadau gael eu postio yn golygu eich bod yn derbyn y newidiadau ac yn cytuno iddynt.

Gwybodaeth amdanom ni

Caiff y Wefan ei gweithredu gan SWGfL. Rydym wedi cofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 05589479 a rhif elusen 1120354 ac mae ein swyddfa gofrestredig yn Belvedere House, Pynes Hill, Woodwater Park, Caerwysg, Dyfnaint, EX2 5WS. Ein prif gyfeiriad masnachu yw Belvedere House, Pynes Hill, Woodwater Park, Caerwysg, Dyfnaint, EX2 5WS. Ein rhif TAW yw GB 880 8618 88.

  1. Defnyddio’r Wefan

    1. Caniateir mynediad i’r Wefan ar sail dros dro, ac rydym yn cadw’r hawl i ddiwygio neu dynnu’r gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu ar ein Gwefan yn ôl heb rybudd (gweler isod). Ni fyddwn yn atebol os nad yw’r Wefan ar gael ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm.
    2. Wrth ddefnyddio’r Wefan, rhaid ichi gydymffurfio â’r darpariaethau canlynol neu unrhyw ddarpariaethau eraill a gaiff eu postio o fewn polisi defnydd derbyniol neu’n rhan ohono o bryd i’w gilydd. 
    3. Gwaherddir chi rhag postio neu drosglwyddo i'r Wefan hon neu allan ohoni unrhyw ddeunydd:
      1. sy’n fygythiol, difenwol, aflednais, anweddus, bradwrus, sarhaus, pornograffig, difrïol, tebygol o achosi casineb hiliol, gwahaniaethol, peryglus, gwaradwyddus, ymfflamychol, cableddus, yn torri cyfrinachedd, yn amharu ar breifatrwydd neu a all achosi anfodlonrwydd neu anghyfleustra; neu
      2. nad ydych chi wedi sicrhau’r holl drwyddedau a/neu gymeradwyaethau angenrheidiol ar ei gyfer; neu
      3. sy’n annog ymddygiad a gâi ei ystyried yn drosedd neu’n gyfystyr ag ymddygiad felly, sy’n arwain at atebolrwydd sifil, neu sy’n groes i’r gyfraith neu’n tresmasu ar hawliau unrhyw drydydd parti, mewn unrhyw wlad yn y byd; neu
      4. sy’n niweidiol yn dechnegol (gan gynnwys, heb gyfyngiadau, feirysau cyfrifiadur, bomiau rhesymeg, ceffylau Trojan, cynrhon, elfennau niweidiol, data llwgr neu feddalwedd maleisus neu ddata niweidiol arall).
      5. Chi sy’n gyfrifol am wneud yr holl drefniadau gofynnol er mwyn ichi gael mynediad i'r Wefan. Rydych chi’n gyfrifol hefyd am sicrhau bod unrhyw rai sy’n defnyddio’r Wefan drwy eich cysylltiad rhyngrwyd chi yn ymwybodol o’r Telerau Defnyddio hyn, a’u bod yn cydymffurfio â nhw.
  2. Cofrestru a Defnyddio'r Wefan

    1. Cyfyngir mynediad i'r Wefan i ddefnyddwyr sydd wedi cofrestru gyda ni.
    2. Os ydych yn dewis, neu’n cael, cod adnabod defnyddiwr, cyfrinair neu unrhyw wybodaeth arall fel rhan o’n gweithdrefnau diogelwch, mae’n rhaid ichi drin gwybodaeth o’r fath yn gyfrinachol, a rhaid ichi beidio â’i datgelu i drydydd parti. Mae gennym hawl i gyfyngu mynediad i’r Wefan (yn cynnwys analluogi unrhyw god adnabod defnyddiwr neu gyfrinair, boed wedi’i ddewis gennych chi neu wedi'i roi gennym ni), ar unrhyw adeg os ydych, yn ein barn ni, wedi methu cydymffurfio ag unrhyw rai o ddarpariaethau’r Telerau Defnyddio hyn.
    3. I gofrestru gyda SWGfL a defnyddio’r Wefan, rhaid ichi fod yn ddeunaw (18) oed neu’n hŷn. Bydd unrhyw gofrestriad, defnydd neu gyrchu i’r Wefan gan unrhyw un o dan 18 oed yn ddiawdurdod, yn ddidrwydded ac yn groes i’r Telerau Defnyddio hyn.
    4. Drwy gofrestru gyda SWGfL, rydych yn gwarantu bod yr holl wybodaeth gofrestru a’r wybodaeth amdanoch chi a’ch sefydliad yr ydych yn ei rhoi inni drwy ddefnyddio’r Wefan hon yn eirwir a chywir ac y byddwch yn sicrhau bod y wybodaeth yn parhau i fod yn gywir. Rydym yn cadw’r hawl i atal mynediad i’r Wefan os ydym yn creu eich bod o dan 18 oed.
  3. Meincnodi a Defnyddio'r Wefan

    1. Caiff y Wefan ei chynnig gan SWGfL i'ch sefydliad fel offeryn hunanadolygu ar-lein fel rhan o wasanaeth 360 degree safe SWGfL, sydd wedi’i fwriadu i alluogi’ch sefydliad i:
      • adolygu polisïau a gweithdrefnau diogelwch ar-lein;
      • canfod eich cryfderau a’ch gwendidau;
      • meincnodi’ch polisi a’ch darpariaeth diogelwch ar-lein yn erbyn amryw o gyrff eraill; a
      • nodi sut y gallai’r sefydliad symud ei ymarfer ymlaen o un lefel i lefel arall.
    2. Proses yw meincnodi lle caiff safle cymharol un sefydliad ei gymharu yn erbyn perfformiad cyfartalog nifer o sefydliadau.  Er mwyn darparu offeryn meincnodi defnyddiol a dilys, bydd SWGfL yn storio data sy’n cael ei ddal am eich sefydliad chi a sefydliadau eraill ac yn cynhyrchu data cyfartalog ar sail nifer o sefydliadau, yn cynnwys eich sefydliad chi.
    3. Bydd y data cyfartalog hwn yn cael ei ddarparu mewn fformat cyfun i’ch sefydliad chi a sefydliadau eraill drwy elfennau meincnodi’r Wefan. Bydd SWGfL hefyd yn defnyddio’r data mewn fformat cyfun i ddarparu adroddiadau ar ba mor ddiogel yw'r ddarpariaeth ar-lein mewn sefydliadau ac i adnabod, mewn termau cyffredinol, anghenion sefydliadau am wasanaethau a hyfforddiant diogelwch ar-lein. Gall hyn gynnwys darparu adroddiadau i gyrff lleol fel Byrddau Lleol Diogelu Plant sy’n gyfrifol am amddiffyn plant a phobl ifanc rhag risgiau diogelwch ar-lein yn eu hardal.
    4. Rydych yn cytuno ar ran eich sefydliad fod data’ch sefydliad, fel y’i cyflwynir drwy'r Wefan a/neu 360 degree safe, yn gywir a chyflawn ac nad yw’n camarwain. Rydych chi a’ch sefydliad yn deall mai dim ond os yw’r holl ddata gwaelodol yn gywir y mae’r meincnodi a ddarperir gan y Wefan a/neu 360 degree safe yn werthfawr.
    5. Gall eich sefydliad chi (neu unrhyw sefydliad arall) ganiatáu i unigolion neu sefydliadau eraill gyrchu at y data am eich sefydliad chi (neu ddata sefydliad arall) drwy greu cyfrif ychwanegol iddynt.
    6. Mae eich sefydliad chi yn gyfrifol am unrhyw bersonau neu sefydliadau y mae’n caniatáu mynediad iddynt at ei ddata ar y wefan ac mae’n cytuno i sicrhau eu bod yn cytuno â’r datganiad preifatrwydd hwn / telerau ac amodau hyn ac yn gweithredu yn unol â nhw.
    7. Os yw’n dymuno gwneud hynny, gall eich sefydliad chi, ond nid unrhyw berson arall (yn cynnwys unrhyw un y bydd eich sefydliad yn rhoi gwybodaeth fewngofnodi iddo), gyhoeddi gwybodaeth am ganlyniadau 360 degree safe eich sefydliad. Fodd bynnag, ni chaiff eich sefydliad gyhoeddi’r Wefan (fanwl) ei hun nac offeryn 360 degree safe, fel mater o gontract, er mwyn sicrhau cyfrinachedd masnachol priodol er budd SWGfL.
  4. Hawliau Eiddo Deallusol

    1. Ni yw perchennog neu drwyddedai yr holl hawliau eiddo deallusol yn y Wefan, ac yn y deunydd a gyhoeddir arni. Caiff y gweithiau hyn eu hamddiffyn gan gyfreithiau hawlfraint a chytuniadau ar draws y byd. Cedwir pob hawl o’r fath.
    2. Gallwch argraffu nifer rhesymol o gopïau fel sy’n ofynnol at eich defnydd personol chi, a gallwch lawrlwytho rhannau o unrhyw dudalen(nau) oddi ar y Wefan at eich defnydd cyfeirio personol chi a gallwch dynnu sylw eraill o fewn eich sefydliad at ddeunydd sydd wedi’i bostio ar y Wefan.
    3. Rhaid ichi beidio ag addasu’r copïau papur neu ddigidol o unrhyw ddeunyddiau yr ydych wedi’u hargraffu neu’u lawrlwytho mewn unrhyw ffordd, a rhaid ichi beidio â defnyddio unrhyw luniau, ffotograffau, dilyniannau fideo neu sain nac unrhyw waith graffig heb gynnwys unrhyw destun cysylltiedig gyda nhw.
    4. Rhaid cydnabod ein statws ni (a statws unrhyw gyfranwyr sydd wedi’u henwi) fel awduron deunydd ar y Safle bob amser.
    5. Rhaid ichi beidio â defnyddio unrhyw ran o’r deunyddiau ar y Wefan at ddibenion masnachol heb gael trwydded i wneud hynny gennym ni neu gan ein trwyddedwyr.
    6. Os gwnewch chi argraffu, copïo neu lawrlwytho unrhyw ran o’r Wefan yn groes i’r telerau defnyddio hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio’r Wefan yn darfod ar unwaith a rhaid ichi, yn ôl ein dewis ni, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau o’r deunyddiau yr ydych wedi’u creu.
  5. Dibyniaeth ar Wybodaeth sy’n Cael ei Phostio/Defnyddio 360 degree safe

    1. Nid yw sylwadau a deunyddiau eraill sy’n cael eu postio ar y Wefan wedi’u bwriadu fel cyngor y gellir dibynnu arno. Hefyd, lle’r ydych wedi’ch cofrestru i ddefnyddio 360 degree safe, rydych yn cydnabod mai offeryn yw sy’n help i chi adolygu diogelwch ar-lein yn eich ysgol, yn cynnwys diogelwch ar-lein plant a phobl ifanc, staff a gwirfoddolwyr sydd â mynediad ar-lein yn ei ystyr ehangaf (yn cynnwys, heb gyfyngiadau, fynediad i’r rhyngrwyd drwy gyfrifiaduron, ffonau symudol, dyfeisiau llaw a chonsolau gemau) yn eich amgylchedd neu fel rhan o’ch gweithgareddau. Rydym felly yn gwadu pob atebolrwydd a chyfrifoldeb yn deillio o unrhyw ddibynnu ar ddeunyddiau o’r fath a 360 degree safe gan unrhyw ymwelydd â’r Wefan, neu gan unrhyw un a allai gael ei hysbysu o’i chynnwys.
    2. Ein nod yw diweddaru’r Wefan yn rheolaidd, a gallem newid y cynnwys ar unrhyw adeg.  Os cyfyd yr angen, gallwn atal mynediad i’r Wefan, neu’i chau am gyfnod amhenodol. Gallai unrhyw ddeunydd ar y Wefan fod wedi dyddio ar unrhyw adeg, ac nid oes unrhyw rwymedigaeth arnom i ddiweddaru deunydd o’r fath.
  6. Ein Hatebolrwydd

    1. Yn amodol ar y darpariaethau isod, ni fydd cyfanswm ein rhwymedigaeth ichi fel un o ddefnyddwyr y Wefan, boed hynny drwy gontract, camwedd (yn cynnwys camwedd esgeulustod) neu fel arall, yn fwy na £10.00
    2. Mae’r deunydd (yn cynnwys, heb gyfyngiad, 360 degree safe) sy’n cael ei arddangos ar y Wefan yn cael ei ddarparu am ddim a heb unrhyw warant, amod na sicrwydd ynglŷn â’i gywirdeb. I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, rydym ni, aelodau eraill ein grŵp cwmnïau a thrydydd partïon sy’n gysylltiedig â ni, drwy hyn yn eithrio’n benodol:
    3. Yr holl amodau, gwarantau a thelerau eraill a allai fod yn ymhlyg fel arall drwy statud, y gyfraith gyffredin neu gyfraith ecwiti.
    4. Unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol a ddaw i ran unrhyw ddefnyddiwr mewn cysylltiad â (yn cynnwys, heb gyfyngiad, 360 degree safe) y Wefan neu’n gysylltiedig â defnyddio, methu defnyddio, neu ganlyniadau defnyddio’r Wefan, unrhyw wefannau wedi’u cysylltu â hi ac unrhyw ddeunyddiau a gaiff eu postio arni (yn cynnwys, heb gyfyngiad, 360 degree safe), yn cynnwys:
      1. colli incwm neu refeniw;
      2. colli busnes;
      3. colli elw neu gontractau;
      4. colli arbedion disgwyliedig;
      5. colli data;
      6. colli ewyllys da;
      7. amser rheoli neu amser swyddfa wedi’i wastraffu; a
      8. boed wedi’i achosi drwy gamwedd (yn cynnwys esgeulustod), tor-contract neu fel arall, hyd yn oed os oedd modd ei ragweld, ar yr amod na fydd yr amod hwn yn atal hawliadau am golli eiddo diriaethol neu am ddifrod i’ch eiddo diriaethol nac unrhyw hawliadau eraill am golled ariannol uniongyrchol nad ydynt wedi’u heithrio gan unrhyw un o’r categorïau a nodir uchod.
    5. Nid yw’r cyfyngu a/neu’r eithrio hwn ar ein hatebolrwydd yn effeithio ar ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol sy’n deillio o’n hesgeulustod, na’n hatebolrwydd am gamliwio twyllodrus neu gamliwio yng nghyswllt mater sylfaenol, nac unrhyw atebolrwydd arall nad oes modd ei eithrio na chyfyngu arno dan y gyfraith berthnasol.
  7. Gwybodaeth Amdanoch Chi a’ch Ymweliadau â’r Wefan

    1. Rydym yn prosesu gwybodaeth amdanoch yn unol â’n Hysbysiadau Preifatrwydd. Drwy ddefnyddio’r Wefan, rydych yn cytuno i'r wybodaeth gael ei phrosesu felly ac yn gwarantu bod yr holl ddata a ddarperir gennych yn gywir.
    2. Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd i’w weld ar swgfl.org.uk/terms.
  8. Cyfathrebu â Chi

    1. O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn yn afnon negeseuon e-bost neu gyfathrebiadau electronig eraill atoch ynglŷn â’ch defnydd o’r Wefan a’n gwasanaethau. Mae’r cyfathrebiadau hyn wedi’u bwriadu i:
      1. rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y Wefan, defnydd eich sefydliad chi a sefydliadau eraill o’r Wefan, a ffyrdd posibl i’r Wefan helpu i fynd i’r afael â’r agweddau ym mharagraff 3.1 o’r Telerau Defnyddio hyn;
      2. darparu gwybodaeth ichi a allai eich helpu i wella diogelwch ar-lein a diogelwch gwybodaeth yn fwy cyffredinol;
      3. darparu gwybodaeth ichi am gynnyrch a gwasanaethau eraill yr ydym yn eu cynnig, sy’n debyg i’r rhai yr ydych wedi’u defnyddio neu wedi holi amdanynt yn y gorffennol; ac
      4. datrys unrhyw broblemau sy’n bodoli efallai neu sydd gennych chi gyda’r Wefan neu’n cynnyrch a’n gwasanaethau eraill.
    2. Efallai hefyd y byddwn yn ymateb i gyfathrebiadau a anfonwch chi atom.
    3. Mae’r cyfathrebiadau hyn wedi’u seilio ar brosesu data personol sy’n angenrheidiol er gyfer ein buddiannau dilys. Y buddiannau dilys yr ydym yn eu dilyn yw gweithredu’r Wefan a chyflenwi’n gwasanaethau.
  9. Llwytho Deunydd i Fyny i’r Wefan

    1. Pryd bynnag y byddwch yn defnyddio nodwedd sy’n caniatáu ichi lwytho deunydd i fyny i’r wefan, neu i gysylltu ag eraill sy’n defnyddio’r Wefan, rhaid ichi gydymffurfio â’r safonau cynnwys a nodir ym mharagraff 1.2 neu a nodir fel arall yn ein polisi defnydd derbyniol fel y’i cyhoeddir o bryd i’w gilydd. Rydych yn gwarantu bod unrhyw gyfraniad o’r fath yn cydymffurfio â'r safonau hynny, ac rydych yn ein hindemnio ni a byddwch yn parhau i’n hindemnio rhag unrhyw weithredu’n groes i’r warant honno.
    2. Bydd unrhyw ddeunydd a lwythir i fyny gennych i’r Wefan yn cael ei ystyried yn anghyfrinachol ac amherchenogol, ac mae gennym hawl i ddefnyddio, copïo, dosbarthu a datgelu i drydydd partïon unrhyw ddeunydd o’r fath at unrhyw ddiben. Mae gennym hawl hefyd i ddatgelu pwy ydych chi i unrhyw drydydd parti sy’n honni bod unrhyw ddeunydd a gaiff ei bostio neu’i lwytho i fyny i’r Wefan gennych yn tresmasu ar ei hawliau eiddo deallusol, neu’i hawl i breifatrwydd.
    3. Ni fyddwn yn gyfrifol, nac yn atebol i unrhyw drydydd parti, am gynnwys neu gywirdeb unrhyw ddeunyddiau a gaiff eu postio gennych chi neu gan unrhyw un arall o ddefnyddwyr y Wefan.
    4. Mae gennym hawl i dynnu unrhyw ddeunydd neu bostiad a roddwch ar y Wefan os nad yw’r cyfryw ddeunydd, yn ein barn ni, yn cydymffurfio â’r safonau cynnwys a nodir ym mharagraff 1.2 neu a nodir fel arall yn ein polisi defnydd derbyniol fel y’i cyhoeddir o bryd i’w gilydd..
  10. Firysau, Hacio a Throseddau eraill

    1. Rhaid ichi beidio â chamddefnyddio’r Wefan drwy gyflwyno, yn fwriadol, feirysau, ceffylau Trojan, cynrhon, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n niweidiol yn dechnolegol. Rhaid ichi beidio â cheisio cael mynediad heb awdurdod i’r Wefan, y gweinydd(ion) y caiff y Wefan ei storio arno/arnynt nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur na chronfa ddata sydd wedi’u cysylltu â’r Wefan. Rhaid ichi beidio at ymosod ar y Wefan drwy ymosodiad atal gwasanaeth neu ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig.
    2. Drwy weithredu’n groes i’r ddarpariaeth hon, byddwch yn cyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990.  Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw dorcyfraith o’r fath i’r awdurdodau perthnasol sy’n gorfodi’r gyfraith a byddwn yn cydweithredu â’r awdurdodau hynny drwy ddatgelu iddynt pwy ydych chi. Os ceir torcyfraith o'r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio’r Wefan yn darfod ar unwaith.
    3. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig, firysau nac unrhyw ddeunydd arall sy’n niweidiol yn dechnolegol a allai heintio eich cyfarpar cyfrifiadurol, eich rhaglenni cyfrifiadurol, data neu ddeunydd perchnogol arall yn sgil eich defnydd o’r Wefan neu am ichi lawrlwytho deunydd a oedd wedi’i bostio arni hi, neu ar unrhyw wefan sydd wedi’i chysylltu â hi.
  11. Cysylltu â’r Wefan

    1. Mae gennych hawl i gynnwys dolen at ein tudalen hafan, cyhyd â’ch bod yn gwneud hynny mewn ffordd deg a chyfreithlon sydd ddim yn niweidio ein henw da nac yn manteisio arno, ond ni ddylech gynnwys y ddolen mewn ffordd sy’n awgrymu unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth neu gefnogaeth ar ein rhan ni pan nad yw hynny’n bodoli.
    2. Rhaid ichi beidio â sefydlu dolen i’r Wefan o unrhyw wefan nad ydych chi’n berchen arni.
    3. Ni ddylid cynnwys rhan o’n gwefan ar unrhyw wefan arall, ac ni chewch gynnwys dolen sy’n arwain at unrhyw ran o’n Gwefan heblaw am y dudalen hafan. Cadwn yr hawl i dynnu’r caniatâd i gynnwys dolen heb rybudd. Rhaid i’r wefan yr ydych yn darparu dolen ohoni gydymffurfio ym mhob ffordd â’r safonau cynnwys a nodir ym paragraff 1.2 ac yn ein polisi defnydd derbyniol fel y’i cyhoeddir o bryd i’w gilydd.
    4. Os ydych am ddefnyddio deunydd oddi ar y Wefan ar wahân i’r hyn sydd wedi’i nodi uchod, anfonwch eich cais at enquiries@swgfl.org.uk.
  12. Dolenni Cyswllt o’r Wefan

    1. Lle mae’r wefan yn cynnwys dolenni at safleoedd eraill ac adnoddau a ddarperir gan drydydd partïon, darperir y dolenni hyn er gwybodaeth i chi’n unig. Nid oes gennym reolaeth dros gynnwys y gwefannau na'r adnoddau hynny, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt nac am unrhyw golled neu ddifrod a all godi o'ch defnydd ohonynt.
  13. Awdurdodaeth a'r gyfraith gymwys

    1. Bydd gan Lysoedd Lloegr awdurdodaeth lwyr dros unrhyw hawliad yn deillio o, neu’n ymwneud â, defnyddio’r Wefan neu ymweld â hi.
    2. Bydd y Telerau Defnyddio hyn ac unrhyw anghydfod neu hawliad a fydd yn deillio ohonynt neu mewn cysylltiad â nhw neu’u maes pwnc neu’u ffurfiad (gan gynnwys anghydfodau neu hawliadau heb fod o dan gontract) yn cael eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
  14. Amrywiadau

    1. Gallwn newid y Telerau Defnyddio hyn (heb gyfyngiad), gan gynnwys y telerau sy’n berthnasol i’r Wefan ac i 360 degree safe, ar unrhyw adeg drwy ddiwygio’r dudalen hon. Disgwylir ichi edrych yn ofalus ar y dudalen hon o bryd i’w gilydd er mwyn ichi sylwi ar unrhyw newidiadau a wnawn, gan eu bod yn eich rhwymo. Mae’n bosibl hefyd i rai o’r darpariaethau sydd wedi’u cynnwys yn y Telerau Defnyddio hyn gael eu disodli gan ddarpariaethau neu hysbysiadau a gaiff eu cyhoeddi yn rhywle arall ar y Wefan.
  15. Cwcis

    1. Mae ein Gwefan yn defnyddio cwcis i wahaniaethu rhyngoch chi a defnyddwyr eraill. Mae hyn yn ein helpu ni i roi profiad da ichi pan fyddwch yn pori drwy ein gwefan ac yn ein galluogi ni i wella ein gwefan.
    2. I gael gwybodaeth am ba gwcis sydd wedi’u gosod efallai pan fyddwch yn ymweld â’r Wefan a'r dibenion y defnyddiwn y cwcis ar eu cyfer, edrychwch ar ein Hysbysiad Cwcis ar swgfl.org.uk/terms. Drwy barhau i ddefnyddio’r Wefan, rydych yn cytuno y cawn ni ddefnyddio cwcis yn y modd a ddisgrifiir yn yr Hysbysiad Cwcis,
    3. Os ydych am gyfyngu ar y defnydd o gwcis fel y mae wedi’i bennu gan y Wefan (neu, yn wir, ar unrhyw wefan arall), neu am eu rhwystro’n llwyr, gallwch wneud hyn drwy osodiadau eich porwr. Dylai swyddogaeth Help eich porwr ddweud wrthych sut mae gwneud hyn. Os mai cwcis trydydd parti a gynhyrchir gan hysbysebwyr sy’n eich poeni’n bennaf, gallwch ddiffodd y rhain drwy fynd i’ch safle Your Online Choices ar http://www.youronlinechoices.com/uk/your-ad-choices
      Ond os ydych chi'n defnyddio'r gosodiadau ar eich porwr i rwystro pob cwci (gan gynnwys cwcis hanfodol) efallai na fyddwch chi’n gallu mynd i bob rhan neu i ambell ran o’r Wefan.
    4. Neu, gallwch fynd i http://www.allaboutcookies.org/ sy’n cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr am sut mae gwneud hyn ar amrywiaeth eang o borwyr. Fe welwch fanylion hefyd yn dweud sut mae dileu cwcis o’ch cyfrifiadur, yn ogystal â gwybodaeth fwy cyffredinol am gwcis. Cofiwch, gan nad yw'r gwefannau hyn yn eiddo inni nac yn cael eu gweithredu gennym, nid ydym ni’n gyfrifol am unrhyw elfen o’r cynnwys arnynt.
  16. Eich pryderon

    1. Os oes gennych unrhyw bryderon am ddeunydd sy’n ymddangos ar y Wefan, cysylltwch â enquiries@swgfl.org.uk.

Diolch ichi am ymweld â’n Gwefan.