Mae 360 digi Cymru, sy'n rhan o becyn adnoddau 360 Cymru, yn adnodd hunanadolygu dwyieithog sy'n cefnogi'r Daith Dysgu Proffesiynol Digidol. Nod yr adnodd yw helpu ysgolion a lleoliadau i werthuso pa mor dda y maent yn cynllunio dysgu digidol, ei roi ar waith a'i gynnal wrth iddynt barhau â'u taith dysgu digidol.
Mae'r adnodd rhyngweithiol hwn yn cynnwys pedair elfen i arweinwyr ysgol eu hystyried:
- Arweinyddiaeth
- Dysgu proffesiynol ac arloesi
- Cwricwlwm, darpariaeth ac addysgeg
- Technoleg addysg
Drwy weithio drwy'r elfennau hyn, caiff ysgolion gyfle i werthuso eu harferion dysgu digidol yn erbyn cyfres o ddisgrifyddion. Mae'n cynnwys cyngor, arweiniad a chyfeiriadau at adnoddau defnyddiol i arweinwyr ysgolion, yn ogystal ag adroddiadau y gallant eu defnyddio fel rhan o gylch gwella eu hysgol. Mae 360 digi Cymru wedi'i ddatblygu i edrych yn debyg a theimlo'n debyg i'w adnodd cysylltiedig, sef 350 safe Cymru.
Nodweddion a manteision
- Platfform ar-lein ar gyfer hunanwerthuso a chynllunio gwelliannau, a ategir gan ganllawiau ac adnoddau ychwanegol a ddatblygwyd fel rhan o'r Daith Dysgu Proffesiynol Digidol a Safonau a Chanllawiau Digidol Addysg.
- Continwwm sy'n rhoi cyfle i ysgolion ystyried sut y gallant symud oddi wrth ddarpariaeth sylfaenol i arferion sy’n amlygu dyhead ac arloesedd.
- Yn galluogi nifer o ddefnyddwyr Hwb i edrych ar adolygiad yr ysgol, gan annog pobl i gydweithio a chan greu cyfleoedd i'r ysgol gyfan fod yn rhan o'r broses adolygu.
- Yn rhoi adborth ar unwaith ac awgrymiadau ar gyfer camau i'w cymryd i helpu ysgolion i wneud cynnydd.
- Profiad rhyngweithiol sy'n rhoi cyfle i ysgolion gofnodi tystiolaeth, sylwadau a chamau gweithredu, ac sydd hefyd yn creu cynllun gwella i ysgolion ei lawrlwytho.
- Yn cynnig amrywiaeth eang o adroddiadau i helpu ysgolion i ddadansoddi eu cynnydd a'u sefyllfa yn gyffredinol, yn ogystal â'u cryfderau a'u gwendidau.