1. Dangosfwrdd
  2. Canllaw Cyflym

Canllaw Cyflym: Sut mae defnyddio 360 digi Cymru

Mae 360 digi Cymru yn eich galluogi i adolygu eich ysgol neu’ch lleoliad yn erbyn nifer o feini prawf gwahanol sy’n cefnogi’r daith dysgu proffesiynol digidol.

Mae wedi’i rannu’n bedair elfen ac yn dair agwedd ar hugain. Mae pob agwedd yn cynnwys pedwar datganiad lefel – lefel 4 yw’r lefel cyflawniad isaf a lefel 1 yw’r lefel cyflawniad uchaf. Bydd ysgolion yn dewis y datganiad sy’n adlewyrchu eu sefyllfa bresennol nhw orau. Drwy roi’r dull mwyaf addas ar waith a hunanasesu yn erbyn pob agwedd, gallwch greu darlun o daith dysgu digidol eich ysgol.

Dangosfwrdd Adolygu

Mae eich dangosfwrdd adolygu yn rhoi trosolwg o’ch cynnydd yn yr adnodd. Mae’r graff radar yn dangos y lefelau rydych chi wedi’u dewis ar gyfer pob agwedd (gwyrdd), ynghyd â’r lefel gyfartalog genedlaethol bresennol (glas).

Mae hyn yn rhoi trosolwg ar unwaith o’r meysydd cryfder a’r meysydd hynny y mae angen eu gwella. Cliciwch y dot glas neu wyrdd i fynd i’r agwedd unigol honno ac i fwrw ymlaen â’ch adolygiad.

O’r dangosfwrdd hwn, gallwch hefyd fynd i’r tab ‘Camau Nesaf’ sy’n ffordd gyflym o ganfod a chael gafael ar y pum agwedd sydd â’r lefel isaf o gyflawniad presennol.

Mae’r dangosfwrdd hefyd yn rhoi mynediad at feysydd ‘Adolygu’ ac ‘Adrodd’ yr adnodd. Mae cael mynediad at yr adolygiad yn eich galluogi i weld yr holl ‘Elfennau’ ac ‘Agweddau’. Mae dewis ‘Adroddiadau’ yn rhoi mynediad at yr amrywiaeth o adroddiadau sydd ar gael am eich ysgol neu’ch lleoliad.

Elfennau

Mae dewis ‘Adolygu’ yn agor y trosolwg o’r elfennau yn yr adnodd. Yr elfennau sy’n darparu’r lefel uchaf yn y strwythur, gan ddiffinio pedwar prif gategori’r daith dysgu proffesiynol digidol lle cynhelir yr adolygiad: Arweinyddiaeth, Dysgu proffesiynol ac arloesi, Cwricwlwm, darpariaeth ac addysgeg, a thechnoleg Addysg.

Ynghyd â’r elfennau, ceir disgrifiad byr a rhai metrigau ynghylch pa mor gyflawn yw’r elfen hon, pryd cafodd ei diweddaru ddiwethaf a sut mae’n cymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol.

Agweddau

Bydd dewis ‘Elfen’ o’r ddewislen adolygu yn dangos yr agweddau sy’n gysylltiedig â’r ‘Elfen’ honno. Ym mhob agwedd, fe welwch chi bedwar datganiad lefel. Dewiswch y datganiad sy’n adlewyrchu eich sefyllfa bresennol chi orau (lefel 4 yw’r lefel cyflawniad isaf a lefel 1 yw’r lefel cyflawniad uchaf).

Ar ôl i chi ddewis lefel, byddwch yn cael arweiniad ar sut mae cyrraedd y lefel nesaf.

Gallwch ddefnyddio’r blychau sefyllfa bresennol, tystiolaeth a chamau gwella i gofnodi unrhyw gamau gweithredu, effeithiau a chamau nesaf o ran datblygiadau yn eich ysgol.

Adroddiadau

Yn dibynnu ar y caniatâd a roddwyd i chi, efallai y bydd hyd at wyth adroddiad gwahanol ar gael i chi. Mae dewis ‘Adroddiadau’ o’r bar llywio ar y chwith yn rhoi mynediad i chi at yr holl fathau o adroddiadau sydd ar gael i chi ynghyd â disgrifiad byr o’r adroddiad.

Mae gan bob adroddiad yr opsiwn argraffu neu lawrlwytho. Gallwch ddefnyddio’r opsiynau ‘Hidlo adroddiad’ i reoli’r wybodaeth y mae’r adroddiad yn ei dangos.